Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Ionawr 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn parhau i effeithio ar fywydau trigolion yng Nghymru?
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Sam Rowlands (Gogledd Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am Arriva yn newid pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yng Nghymru?
(5 munud)
(60 munud)
NDM8446 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well” a osodwyd ar 6 Tachwedd 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2023.
(60 munud)
NDM8447 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023.
2. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion mathemateg, darllen a gwyddoniaeth a gymerwyd gan bobl ifanc 15 oed;
b) mai canlyniadau Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU, am y pumed tro yn olynol; ac
c) bod canlyniadau Cymru yn is na chyfartaledd yr OECD.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
b) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, heb unrhyw doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;
c) ailgyflwyno math o brofion safonedig ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu rhieni ac athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau allweddol a chymharu perfformiad;
d) datblygu rhaglen well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog; ac
e) cael gwared ar y consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi arbedion a wnaed yng nghyllidebau ysgolion.
Canlyniadau PISA 2022 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y pandemig wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd.
Yn cydnabod bod Cymru wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018, fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig.
Yn croesawu:
a) lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn;
b) bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft;
c) bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a
d) sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) blaenoriaethu'r gwaith o recriwtio a chadw athrawon a chynorthwywyr addysgu, yng ngoleuni data CGA sy'n dangos bod 16% o athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf a bod tua 40% o staff cymorth dysgu yn bwriadu gadael yn y 5 mlynedd cyntaf;
b) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg, heb unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;
c) lansio adolygiad cyflym i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysg yng Nghymru, gan adrodd ar gyfres o argymhellion ystyrlon a'u gweithredu.
(60 munud)
NDM8445 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.
3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb uchafswm o ran enillion; a
b) gweithredu targedau statudol yn y Strategaeth Tlodi Plant derfynol i gyfrannu at gau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
Yn croesawu:
a) gwell ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.
b) diogelu yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well.
c) y gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn ymhellach.
d) y rôl y gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref.
e) rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd.
Yn nodi bod canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig.
Cyllideb Ddrafft 2024 i 2025 Llywodraeth Cymru
Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, dileu isbwynt a) a rhoi yn ei le:
hyrwyddo'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n cael Credyd Cynhwysol;
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
mynd i'r afael â'r tanberfformiad economaidd sy'n achosi tlodi plant yng Nghymru;
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd rhaglenni sy’n cael eu hariannu â grantiau;
Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
cydnabod bod atebion syml sy'n canolbwyntio ar eu galluogi i gael y gorau o addysg prif ffrwd, yn hollbwysig i'r mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi;
(30 munud)
NDM8444 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Methu cynllunio, cynllunio methiant - pam mae angen aildrefnu cynllunio yng Nghymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024